Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2015
Amser: 09.04 -
11.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3282
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Andrew RT Davies AC Jocelyn Davies AC Alun Ffred Jones AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Joyce Watson AC (yn lle Sandy Mewies AC) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Alistair McQuaid (Swyddfa Archwilio Cymru) Jeremy Morgan (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Nick Tyldesley (Prisiwr Dosbarth) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) |
1.1 Nodwyd y papurau.
1.2 Trafododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan dystion, ynghyd â'r dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth cynharach.
1.3 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lambert Smith Hampton gyda chwestiwn penodol o'r dystiolaeth ychwanegol a gafwyd.
1.4 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lambert Smith Hampton gyda chwestiwn penodol o'r dystiolaeth ychwanegol a gafwyd.
1.5 Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu'r sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru i 1 Rhagfyr. Cyn y sesiwn honno, cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda rhai cwestiynau penodol sydd wedi codi o'r dystiolaeth a gafwyd.
Trawsgrifiad
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun ar gyfer Eitem 1 o dan Reol Sefydlog 18.8 a dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.
2.3 Dirprwyodd Andrew RT Davies ar ran Mohammad Asghar ar gyfer Eitem 1.
2.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Dirprwyodd Joyce Watson AC ar ei rhan.
3.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd yr Aelodau y byddai diweddariadau pellach yn gynnar yn 2016 yn ddefnyddiol ar Glastir a gwasanaeth awyr oddi-mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.
3.1 Glastir: Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Morol Llywodraeth Cymru (19 Hydref 2015)
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei ddosbarthu i Aelodau drwy e-bost i gytuno arno.
5.2 Cyhoeddir yr adroddiad yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2015.
6.1 Trafododd yr Aelodau'r briff cyfreithiol a sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Fil Cymru drafft.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda barn y Pwyllgor.